Ateb y Galw: Iwan Griffiths - BBC Cymru Fyw

Ateb y Galw: Iwan Griffiths

  • Cyhoeddwyd
Llun o'r darlledwr Iwan GriffithsFfynhonnell y llun, Iwan Griffiths

Iwan Griffiths sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan ei frawd bach Rhys Griffiths yr wythnos diwethaf.

Mae Iwan yn ohebydd newyddion i S4C ac yn un o gyflwynwyr Bore Sul ar BBC Radio Cymru. Mae'n byw yn Llangynnwr gyda'i deulu ac wedi bod yn brysur yn ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos hon.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Gyda'r amwysedd ynglŷn â beth sy'n atgof pur a beth sydd wedi'i ddylanwadu gan lun neu stori gan riant, mae'n gwestiwn anodd! Ond dwi wir, wrth gau fy llygaid yn gallu gweld, a theimlo'r profiad o fynd am dro, law yn llaw gyda Mam Dre (Fy hen fam-gu, sef mam-gu fy mam). Dwi'n cofio mynd i siopa'n gwmni iddi pan o'n i'n ifanc iawn i Kwik Save Aberteifi, gan fynd o'i thŷ, i mewn i'r maes parcio trwy dwll yn y ffens. Dwi ddim yn credu i fi greu'r atgof hwnnw. Dwi'n dal gafael ynddo pru'n bynnag.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae gen i rysáit ar gyfer y noson orau erioed. Mae'n fater syml o gael y tri pheth yma yng nghyd. 1. Cantorion sy'n joio sing song 2. Cwrw a gwin 3. Gwawr yn ymweld â'r parti - hynny yw gweld yr haul yn codi!!! Dwi'n gobeithio cael y noson orau erioed eto'n fuan wrth i'r cyfyngiadau ddiflannu.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Ryan Davies y canwr, y cerddor, yr actor y digrifwr. Mae e'n arwr mawr i fi, a dwi wedi gwrando ar recordiadau o'i berfformiadau'n ddi-ddiwedd. Dwi'n hoff o'i gomedi ac wrth fy modd yn gwrando ar ei ddawn i wneud pobl i chwerthin, ond yn anad dim, mae'i lais e a'i allu i ganu'r piano yn gwbl gwbl rhyfeddol. Os glywch chi fyth fersiwn gwell o 'Myfanwy', gadewch i fi wybod!

Disgrifiad o’r llun,

Y person hoffai Iwan dreulio'r diwrnod gyda, y diddanwr Ryan Davies

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Gitre yn Llangynnwr. Dyma le dwi 'di bod fwya' ers rhyw ddwy flynedd yn sgil y clo. A chi'n gwybod beth, dwi'n ddigon hapus yno.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Pan enillodd rhaglen Newyddion S4C Bafta rai blynyddoedd nôl, fe ges i'r fraint o gael mynd i gasglu'r wobr ar ran y tîm. Bues i wrthi'n traethu ar y llwyfan, yn diolch i hwn a'r llall gan sôn yn helaeth am fy ngwerthfawrogiad wrth dderbyn y fath fraint. Ges i noson braf o ddathlu hefyd y noson honno. Ddeuddydd yn ddiweddarach, fe ddaeth y newyddion bod 'na gamgymeriad MAWR wedi bod yn y broses, ac mai rhaglen arall oedd wedi ennill. Yn hytrach na chrio, nes i wir weld yr holl beth fel rhywbeth rhyfeddol o ddoniol.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Cerdded i mewn i'r 'stafell wely anghywir tra ar wyliau mewn gwesty, a chamu i'r stafell ymolchi tra bod dyn barfog yno yn mwynhau ei gawod. Dwi'n gweld ei wyneb yn glir hyd heddiw. Sai'n siwr os mai fe neu fi gath fwya' o sioc. Rhedes i mas nerth fy nhraed ac aros yn fy ystafell am weddill yr wythnos.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Un o'r ddau fab i weld beth yn y byd sy'n mynd mlaen yn y pennau bach 'na!

Ffynhonnell y llun, Iwan Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Meibion Iwan

O archif Ateb y Galw:

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Tynnu sanau oddi ar fy nhraed yng nghanol nos tra'n y gwely, fel bod peiled ohonyn nhw yno'n gorwedd ar ddiwedd wythnos.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Podlediad, neu recordiad yn hytrach o'r Talwrn. O ddachre'r rhaglen yn y car ar BBC Sounds yng Nghaerfyrddin, mae e'n gwmni i fi tan i fi gyrraedd y gwaith bron iawn. Yn methu'n lân a gwneud fy hun, dwi'n rhyfeddu at ddawn ein beirdd, ac yn mwynhau'r cymorth sy'n dod gan Ceri Wyn yn yr esboniadau sy'n dod â'r cerddi'n fyw i wrandawr anwybodus fel fi.

Ffynhonnell y llun, BBC Radio Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Hoff beth Iwan Griffiths i wrando arno - Y Talwrn ar BBC Radio Cymru

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Gweithgar. Amyneddgar. Bodlon.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Ro' ni arfer nofio eitha' tipyn yn ystod fy nghyfnod yn yr ysgol. Roedd wythnos arferol yn golygu tair noson o ymarfer gyda Chlwb Pysgod Aberteifi, gyda chystadlaethau ar ddyddiau Sadwrn. Doeddwn i ddim yn anarferol o wych, ond dwi'n credu i'r holl ymarfer fod yn dipyn o help i ffitrwydd cyffredinol wrth i fi dyfu'n hŷn.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cario mlaen fel yr arfer gan obeithio nad yw hynny'n wir. Dwi'n berson positif.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Dwi'n llefen yn gyson dyddie 'ma. Os oes unrhyw un o'r plant yn dweud neu'n gwneud rhywbeth sy'n achos i'w tad fod yn browd, mae'r dagre'n llifo. Mae 'di bod yn gyfnod anodd hefyd gyda'r pandemig yn rheoli'n bywydau ac weithie mae pethau'n mynd yn ormod - ond mae Hanna fy ngwraig wastad yno i wneud pethe'n well. Dwi'n lwcus iawn o hynny.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Bydde bywyd yn dlotach heb y tri yma

Ffynhonnell y llun, Iwan Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Gwraig Iwan, Hanna Hopwood-Griffiths a'u meibion

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw