Pwllheli: Rhybudd i berchnogion cychod wedi achosion o ddwyn - BBC Cymru Fyw

Pwllheli: Rhybudd i berchnogion cychod wedi achosion o ddwyn

Harbwr PwllheliFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae perchnogion cychod wedi'u rhybuddio i fod yn wyliadwrus ar ôl achosion o ddwyn ym Mhwllheli

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r Gogledd yn rhybuddio perchnogion cychod i fod yn wyliadwrus ar ôl achosion o ddwyn ym Mhwllheli.

Mae offer morol drud iawn, gan gynnwys injans cychod, wedi cael ei ddwyn mewn pedwar digwyddiad gwahanol yn y dref ym mis Gorffennaf.

Yn dilyn dau achos o ddwyn o fewn deuddydd yn ddiweddar, mae'r heddlu'n annog perchnogion cychod a jet skis i "ystyried diogelwch eu heiddo".

Dywedodd Cyngor Gwynedd, sy'n rhedeg marina Pwllheli, eu bod yn "hynod siomedig fod achosion o ddwyn wedi bod" yn ardal yr harbwr ar 22 a 23 Gorffennaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ditectif Ringyll Arron Hughes yn argymell "gosod camerâu a defnyddio cloeon gwrth-ladrad"

Dywedodd y Ditectif Ringyll Arron Hughes: "Buaswn i'n argymell gosod CCC a defnyddio cloeon gwrth-ladrad lle bo hynny'n bosibl, marcio eitemau gwerthfawr a chael gwared ar eiddo drud pan dydyn nhw ddim yn cael eu defnyddio.

"Dylai unrhyw weithgarwch amheus o amgylch iardiau cychod, ardaloedd gwasanaethau morol neu stadau diwydiannol hefyd gael eu hadrodd i ni cyn gynted â phosibl.

"Gofynnir i unrhyw un sydd hefo gwybodaeth a allai helpu hefo'n hymchwiliadau ni gysylltu hefo ni drwy ein gwefan ni, neu drwy ffonio 101."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Rydym yn hynod siomedig fod achosion o ddwyn wedi bod yn ardal harbwr Pwllheli yn ystod nos Lun 22 Gorffennaf a nos Fawrth 23 Gorffennaf.  

"Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio ir achos ar hyn o bryd a byddem yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda’r heddlu cyn gynted a phosib."

Pynciau Cysylltiedig