Llwyddiant fel a fu i'r Cymry yn y Gemau Olympaidd? - BBC Cymru Fyw

Llwyddiant fel a fu i'r Cymry yn y Gemau Olympaidd?

Jade Jones, Geraint Thomas a Lauren Price
Disgrifiad o’r llun,

Sêr Euraidd: Jade Jones, Geraint Thomas a Lauren Price

  • Cyhoeddwyd

Bydd y nifer mwyaf o Gymry ers dros ganrif yn cynrychioli Prydain yn y Gemau Olympaidd ym Mharis eleni - 31 o gystadleuwyr.

Bydd pob un yn breuddwydio am lwyddiant yn y gemau ond pwy fydd yn dilyn ôl troed y Cymry sydd wedi ennill medalau mewn gemau blaenorol.

Dyma restr o'r Cymry sydd wedi cipio medalau - aur, arian ac efydd - ers Gemau Llundain ym 1908.

Mae'r * isod yn dynodi bod y cystadleuwyr yn aelodau o dîm.

Llundain 1908

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Paulo Radmilovic

Paulo Radmilovic* - Nofio (4 x200m Dull rhydd), Aur

Paulo Radmilovic* - Polo Dŵr, Aur

Albert Gladstone* - Rhwyfo, Aur

Reginald Brooks-King - Saethyddiaeth, Arian

Tîm Hoci Cymru* - Efydd

Stockholm 1912

David Jacobs* - Athletau (4x100m), Aur

Irene Steer* - Nofio (4x100m Dull rhydd), Aur

Paulo Radmilovic* - Polo Dŵr, Aur

William Titt - Gymnasteg, Efydd

William Cowhig - Gymnasteg, Efydd

Antwerp 1920

Paulo Radmilovic* - Polo Dŵr, Aur

John Ainsworth-Davies* - Athletau (4x100m), Aur

Cecil Griffiths* - Athletau (4x100m), Aur

Los Angeles 1932

Hugh Edwards* - Rhwyfo (Pâr heb lywiwr), Aur

Hugh Edwards* - Rhwyfo (Pedwarawd heb lywiwr), Aur

Valerie Davies – Nofio (100m Dull cefn), Efydd

Valerie Davies* - Nofio (4x100m Dull rhydd) , Efydd

Llundain 1948

Thomas Richards - Marathon, Arian

Ken Jones*- Athletau (4x400m), Arian

Sir Harry Llewellyn - Marchogaeth, Efydd

Ron Davis - Hoci, Arian

William Griffiths - Hoci, Arian

Helsinki 1952

John Disley – Athletau (300m clwydi rhos a pherth), Efydd

Graham Dodds* - Hoci, Efydd

John Taylor* - Hoci, Efydd

David Broome - Marchogaeth, Efydd

Sir Harry Llewelyn* - Marchogaeth, Aur

Rhufain 1960

David Broome - Marchogaeth, Efydd

Nick Whitehead* - Athletau (4x100m), Efydd

Tokyo 1964

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lynn Davies

Lynn Davies - Athletau (Naid hir), Aur

Dinas Mecsico 1968

Richard Meade* - Marchogaeth, Aur

Martyn Woodroffe - Nofio: (200m Dull pili pala), Arian

David Broome - Marchogaeth, Efydd

Munich 1972

Richard Meade* - Marchogaeth, Aur

Richard Meade - Marchogaeth, Aur

Ralph Evans - Bocsio (Pwysau is-bry), Efydd

Moscow 1980

Michelle Probert* - Athletau (4 x 100m), Efydd

Charles Wiggin* - Rhwyfo (Pâr heb lywiwr), Efydd

Los Angeles 1984

Robert Cottrell* - Hoci, Efydd

Seoul 1988

Robert Clift* - Hoci, Aur

Colin Jackson – Athletau (110m clwydi), Arian

Barcelona 1992

Helen Morgan* - Hoci, Arian

Atlanta 1996

Jamie Baulch* - Athletau (4x400), Arian

Iwan Thomas* - Athletau (4x400), Arian

Sydney 2000

Ian Barker - Hwylio, Arian

Athen 2004

David Davies - Nofio (1500m Dull rhydd), Efydd

Beijing 2008

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nicole Cooke

Nicole Cooke - Beicio (Ras y Lôn), Aur

Geraint Thomas* - Beicio (Ras Gwrso), Aur

Tom James* - Rhwyfo (Pedwarawd heb lywiwr), Aur

Tom Lucy* - Rhwyfo (Wyth gyda llywiwr), Arian

David Davies - Nofio (10km), Arian

Llundain 2012

Geraint Thomas* - Beicio (Ras Gwrso), Aur

Tom James* - Rhwyfo (Pedwarawd heb lywiwr), Aur

Jade Jones - Taekwondo (dan-57kg), Aur

Fred Evans – Bocsio (Pwysau welter), Arian

Chris Bartley* - Rhwyfo (Pedwarawd ysgafn), Arian

Hannah Mills* - Hwylio (Dosbarth 470), Arian

Sarah Thomas* – Hoci, Efydd

Rio 2016

Owain Doull* - Beicio (Ras Gwrso), Aur

Elinor Barker* - Beicio (Ras Gwrso), Aur

Hannah Mills* - Hwylio (Dosbarth 470), Aur

Jade Jones - Taekwondo (dan-57kg), Aur

Becky James – Beicio (Ras y keirin), Arian

Jazz Carlin – Nofio (400m Dull Rhydd), Arian

Victoria Thornley* – Rhwyfo (Parau 2000m), Arian

Sam Cross* – Rygbi Saith Pob Ochr, Arian

James Davies* - Rygbi Saith Pob Ochr, Arian

Jazz Carlin – Nofio (800m Dull Rhydd), Arian

Becky James – Beicio - Arian

Tokyo 2020

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hannah Mills

Matt Richards *- Nofio (4x200m Dull rhydd), Aur

Calum Jarvis* - Nofio (4x200m Dull rhydd), Aur

Hannah Mills* - Hwylio (Dosbarth 470), Aur

Lauren Price – Bocsio (Pwysau Canol) - Aur

Lauren Williams - Taekwondo (dan-67kg), Arian

Tom Barras* – Rhwyfo (Sgwlio pedwarplyg), Arian

Elinor Barker – Beicio (Ras Gwrso), Arian

Josh Bugajski* – Rhwyfo (Wythawd), Efydd

Oliver Wynne-Griffith* – Rhwyfo (Wythawd), Efydd

Sarah Jones* – Hoci, Efydd

Leah Wilkinson* – Hoci, Efydd

Pynciau Cysylltiedig