Tri yn euog yn dilyn llofruddiaeth ger Pontypridd - BBC Cymru Fyw

Tri yn euog yn dilyn llofruddiaeth ger Pontypridd

Daniel RaeFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Daniel Rae ei drywanu ym mis Rhagfyr 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae tri o bobl wedi eu dyfarnu'n euog mewn cysylltiad â llofruddiaeth yn Nhrefforest.

Bu farw Daniel Rae, 30, mewn adeilad ar Stryd y Dywysoges ym mis Rhagfyr 2023.

Yn Llys y Goron Caerdydd, cafodd Kieran Ashton Carter, 22, o Birmingham ei ddyfarnu'n euog o lofruddiaeth.

Mae Amy Jones, 37 a Chad Joy, 33 o Bontypridd wedi eu cael yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Daniel Rae, 30, mewn adeilad yn Nhrefforest ym mis Rhagfyr 2023

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd, Paul Raikes o Heddlu'r De: "Ychydig wedi 19:50 ar nos Sul 17 o Ragfyr, fe gawson ni wybod gan y Gwasanaeth Ambiwlans bod Daniel mewn adeilad ar Ffordd y Dywysoges yn Nhrefforest ac nad oedd yn anadlu. Roedd ganddo anafiadau i'w goes ar ôl cael ei drywanu, a bu farw.

"Fe arweiniodd hynny at ymchwiliad heriol a chymhleth a bu'n rhaid defnyddio adnoddau arbenigol er mwyn adnabod ac erlyn y rhai oedd â chysylltiad gyda marwolaeth Daniel Rae.

"Mae'r dyfarniadau yma yn dangos i'r rheiny sy'n bwriadu troseddu na fyddwn ni fyth yn rhoi'r gorau i ymchwilio.

"Mi hoffwn i gydymdeimlo gyda theulu Daniel Rae a diolch iddyn nhw am eu cefnogaeth yn ystod ein hymchwiliad."

Bydd y tri yn cael eu dedfrydu ar Fedi 26.