Eluned Morgan: 'Angen i ni wella ar yr wythnosau diwethaf' - BBC Cymru Fyw

Eluned Morgan: 'Angen i ni wella ar yr wythnosau diwethaf'

Dywed Eluned Morgan ei bod hi eisiau ymateb i'r pethau "mwyaf pwysig" i bobl Cymru pan ddaw hi'n brif weinidog.

Mae arweinydd newydd Llafur Cymru yn cyfaddef ei bod hi "heb gael lot o amser" i gynllunio ei chamau nesaf, ond ei bod am ddefnyddio'r haf fel cyfle i "wrando ar beth sydd gan bobl Cymru i ddweud".

Mewn digwyddiad i ddathlu ei phenodiad yn arweinydd, bu'n trafod ei bwriad i wella'r sefyllfa "rydym wedi gweld dros yr wythnosau diwethaf".

Y disgwyl yw mai Ms Morgan fydd y fenyw gyntaf i gael ei phenodi'n Brif Weinidog Cymru, gyda Huw Irranca-Davies fel ei dirprwy.

Ms Morgan oedd yr unig ymgeisydd i olynu Vaughan Gething fel arweinydd Llafur Cymru.